
Local information in the Welsh language
Visit Crickhowell
Welsh-English / English-Welsh On-line Dictionary
Beth am ymweld a Chrughywel gyda’i golygfeydd ysblennydd dros Fannau

Brycheiniog a’r Mynyddoedd Du. Ellwch chi ddim peidio ag ymlacio a mwynhau’r
tangnefedd a’r llonyddwch sy’n amgylchynu’r lle. (poblogaeth tua 2000).
Tre farchnad lewyrchus ydyw Crughywel yng nghesail y mynyddoedd du a
gogoniaint Bannau Brycheiniog ac yn ddi-ddadl y cwm mwyaf hardd yn y Parc
Cenedlaethol.
Mae eisiau i chi ymweld a’r lle bywiog hwn gyda’i chymuned o bobl gyfeillgar sy a
balchder yn eu hardal a siopau o safon a llawer o fwytai. Mae’r addysg a gyfrennir yn
ysgolion cynradd ac uwchradd yr ardal o safon uchel ac mae dewis eang o fusnesau,
mudiadau, gwestai a thai gwely a brecwast i’w gael yno.

Er ei fod ynghanol cefn gwlad hardd mae teithio i ac o Grughywel yn hawdd a di-
draferth. Dim ond tair awr i Lundain oddi yno, awr a hanner i Firmingham a Chaerdydd
ond yn ddeugain munud i ffwrdd. Mae’r orsaf fysiau a gorsaf drenau agosaf yn y Fenni
( 6 milltir) ac mae maes awyr Caerdydd Rhyngwladol 45 milltir i ffwrdd.
Ymwelwch a Chrughywel – mae amrywiaeth o weithgareddau i’ch diddori yma megis
merlota, pysgota am eog a brithyll, gwyliau antur, parahofran a ymweld a Llyn
Syfaddan. Ceir dau parc diwydiannol bach yn yr ardal yn darparu unedau modern a
hefyd gweithdau crefft gweledig. Mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn caniatau i bobl
gynnal eu bysnesau yn eu cartrefi sy wedi eu lleoli mewn mannau hynod o

brydferth.
Ceir llefydd o ddiddordeb lleol megis yr amgueddfa lle gellwch cael y
profiad o fod yn gweithio mewn pwll glo. Hefyd Castell y Fenni a chamlas
Casnewydd i Aberhonddu. Ar ben hynny mae’n posib cerdded y bryniau a
gwerthfawrogi cadwraeth a bywyd gwyllt ac atyniadau eraill yn ac o gwmpas Parc
Genedlaethol Bannau Brycheiniog.
Lleolir Crughywel pedair milltir i’r de ddwyrain o Dretwr ar lan yr Afon Wysg ac
mae hi’n ganolfan bywiog ar gyfer archwylio’r ardal o’i chwmpas. Ceir pont ysblenydd yn
dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg yno gyda thri bwa ar ddeg i’w gweld o’r pen
dwyreiniol ond dim ond deuddeg o’r pen gorllewiniol sy wedi esgor ar sawl chwedl
lleol!. Mae Mynydd Crughywel (Table Mountain) 1481, yn rhoi cefnlen

gogleddol delwyntiadwy ac ar ei ben ceir caer (crug) hynafol a lleolir llwybr heibio’r
Wern oddi ar Heol LLanbedr at y gaer. Mae nifer o gerddwyr yn dilyn trywydd i’r
gogledd o Mynydd Crughywel sy’n codi dwy filltir at wastatir carreg calch ar ben Pen
Cerrig-Calch (2302 )
The Web master would like to thank my good friend Huw Evans for his help with the translation of this page into the Welsh language